Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil logo

Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil

Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil – newidiadau pwysig o fis Ebrill 2023

Sefydlwyd Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil Cymru-gyfan fwy na degawd yn ôl i gefnogi staff sy’n gweithio yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol i ddatblygu cynigion o ansawdd uchel am gyllid ar gyfer ymchwil, i’w cyflwyno i amrywiaeth o arianwyr ymchwil.

Ar ôl adolygiad yn 2022, daethon ni i’r casgliad fod angen mwy o lawer na chefnogaeth ag ysgrifennu cais am grant ar bobl a oedd eisiau datblygu eu syniadau am ymchwil – roedd angen hyfforddiant ymchwil arnyn nhw, wedi’i wreiddio’n gynnar yn eu gyrfa, cyfleoedd i ddatblygu ymchwil a chael eu mentora, a rhwydweithiau cefnogi cyfoedion ac arbenigwyr eraill ar gael iddyn nhw yn ogystal â chysylltiadau â’r canolfannau a’r unedau rydyn ni’n eu hariannu mewn prifysgolion. Gallai hyn hefyd eu galluogi i ennill profiad o fod yn gydymgeisydd mewn cynnig am grant gydag ymchwilwyr mwy profiadol cyn iddyn nhw gyflwyno cais y maen nhw’n ymgeisydd arweiniol arno.

Felly rydyn ni wedi newid y cynnig rydyn ni’n ei wneud i bobl yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol sydd eisiau meithrin a datblygu eu gyrfaoedd ymchwil yn 2023 er mwyn darparu pecyn dysgu a datblygu mwy cydlynus ar gyfer ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cyfleoedd mentora a chyfleoedd datblygu eraill trwy Gyfadran newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Roedd y Gyfadran, a sefydlwyd yn 2022, yn argymhelliad allweddol yn adroddiad Hyrwyddo Gyrfaoedd Mewn Ymchwil a oedd yn edrych yn strategol ar wella llwybrau gyrfaoedd ymchwil ac adeiladu cyfleoedd gwell ar gyfer yr holl ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r Gyfadran yn darparu cefnogaeth, canllawiau, hyfforddiant ymchwil a chyfleoedd datblygu eraill ar gyfer deiliaid gwobr bersonol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol a chyfnodau yn eu gyrfa. Ei nod yw hyrwyddo cymuned ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd sy’n gallu bod yn hyderus bod yna amgylchedd cefnogol ar eu cyfer sy’n eu galluogi i wneud ymchwil sy’n cael effaith ac i symud ymlaen ar hyd eu llwybrau gyrfaoedd ymchwil unigol eu hunain.

Mae’n agor amrywiaeth o gynlluniau gwobrau personol - o wobrau i Egin Ymchwilwyr ar gyfer ymchwilwyr newydd i wobrau â’r nod o gefnogi ymchwilwyr mwy profiadol i gyflwyno ceisiadau cystadleuol am gymrodoriaethau o fri ledled y DU, i UKRI ac i arianwyr eraill. Bydd y Gyfadran hefyd yn dyfarnu gwobrau â’r bwriad o feithrin arbenigedd mewn arwain treialon clinigol ac astudiaethau eraill da eu dyluniad ac, am y tro cyntaf, gwobrau doethuriaeth sy’n talu cymaint â chyflog i bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ymchwil cynaliadwy ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol. 

Yn gyffredinol, bydd yna gynnydd o fwy na £1m y flwyddyn yn ein buddsoddiad yn y maes hwn.

O 1 Ebrill 2023, gall ymchwilwyr yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol ddysgu mwy ar dudalennau gwe Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chysylltu â’r tîm i gael cyngor ar yr amrywiaeth o wahanol gynlluniau ariannu a’r cyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael i ddeiliaid gwobrau.  

Sylwch y bydd ymchwilwyr dal yn gallu cysylltu ag un o 3 swyddfa’r Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil yng Nghymru tan ddiwedd mis Mawrth 2023 i gael cefnogaeth i ddatblygu cynnig am gyllid.