
Uned Dreialon Abertawe (STU)
Mae Uned Dreialon Abertawe (STU) yn Uned Dreialon Clinigol sy’n gofrestredig ag UKCRC ac sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth fethodolegol i dimau clinigol, wrth ddylunio treialon newydd a gwneud cais am grantiau. Felly ein nod yw gwella iechyd pobl Cymru a thu hwnt drwy wella nifer, cynnydd ac ansawdd treialon ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gyfeirio’n benodol at ofal eilaidd ac argyfwng, yn enwedig ym maes gastroenteroleg ac iechyd meddwl. Credwn mai dim ond lle mae ymrwymiad ar bob cam i gynnwys profiadau ac arbenigedd cleifion a defnyddwyr gwasanaeth y gellir cyflawni treialon clinigol yn llwyddiannus.