Labordy Grŵp Ymchwil Diabetes Abertawe

Labordy Grŵp Ymchwil Diabetes Abertawe

Mae'r labordy yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n arbenigo mewn profion sy'n ymwneud â threialon clinigol ac yn enwedig y rhai sy'n berthnasol i astudio diabetes a meysydd cysylltiedig. Yn ogystal â gwasanaethau profi, rydym yn gallu cefnogi datblygu a phrofi (gan gynnwys dilysu) dyfeisiau newydd

Mae’r labordy wedi’i achredu yn unol â’r safon Ymarfer Labordy Clinigol Da, sef system ansawdd ar gyfer labordai sy’n dadansoddi samplau o Dreialon Clinigol yn unol â rheoliadau Ymarfer Labordy Clinigol Da. Mae hyn yn caniatáu i'r labordy ddangos safonau sy'n cynnal cyfrinachedd a hawliau cleifion yn ogystal â dangos dibynadwyedd, ansawdd a chywirdeb y data. Mae gan y labordy System Rheoli Ansawdd helaeth sy'n ymdrin ag agweddau megis derbyn samplau, eu trin, eu profi, eu storio, dadansoddi data ac adrodd ar ddata sy'n deillio o'r dadansoddiad o samplau mewn treialon clinigol.