WBC logo

Banc Canser Cymru (WBC)

Banc biolegol yw Banc Canser Cymru (WCB) sy'n casglu, prosesu a storio biosamplau a data gan gleifion canser yng Nghymru ar gyfer ymchwil. Gofynnir i gleifion gydsynio i roi samplau meinwe dros ben, nad oes eu hangen ar gyfer gofynion diagnostig, a samplau hylif (e.e. gwaed, wrin, poer) i'w defnyddio mewn prosiectau ymchwil yn y dyfodol. Cedwir yr holl ddata yn ddiogel ac yn unol â rheoliadau Diogelu Data. Mae gan Fanc Canser Cymru drwydded gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol i storio samplau ar gyfer ymchwil ac fe'i cymeradwywyd fel Banc Meinwe Ymchwil gan Bwyllgorau Moeseg Ymchwil y GIG. Gall ymchwilwyr ledled y byd a’r rhai sy'n gweithio mewn unrhyw sector wneud cais i Fanc Canser Cymru i gael mynediad at samplau a data ar gyfer eu prosiectau ymchwil sy'n gysylltiedig â chanser.