Parc Geneteg Cymru (PGC)
Mae Parc Geneteg Cymru yn grŵp cymorth seilwaith wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rydym yn cefnogi, yn hyrwyddo ac yn cyflawni Ymchwil Genetig a Genomig Feddygol o’r radd flaenaf, ac yn gweithio er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio mewn ffordd sydd o fudd i gleifion yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Parc Geneteg Cymru yn gweithio i gefnogi’r broses o weithredu Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru drwy wneud y canlynol:
- Hyrwyddo a hwyluso ymchwil iechyd genetig a genomig o’r radd flaenaf yng Nghymru
- Sicrhau bod datblygiadau di-dor ym maes geneteg a genomeg er mwyn gwella gwasanaethau a masnacheiddio’r GIG
- Sicrhau cyfranogiad gwybodus cleifion, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol wrth ddatblygu meddygaeth genomig yng Nghymru.