THINK logo

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

 

 

Crëwyd Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) i ddod â phobl sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth ac iechyd ym myd polisi, yn ymarferol ac yn y byd academaidd at ei gilydd, gan ddatblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth, creu ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar ymarfer, a rhoi ymchwil ar waith.

Bydd llu o gyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan yng ngweithgareddau THINK, a cheisir sicrhau bod y gweithgareddau hynny’n rhai cyfranogol. 

Mae’r rhwydwaith yn datblygu gwybodaeth ac ymarfer mewn pedair agwedd benodol a rhyng-gysylltiedig ar drafnidiaeth, symudedd, iechyd a lles:

  1. effaith cerbydau ar lygredd aer a sŵn
  2. anafiadau a marwolaethau yn sgil damweiniau cerbydau
  3. effaith teithio llesol (cerdded a beicio) ar iechyd
  4. effaith cerbydau ar hollti’r gymuned 

Bydd gwaith y rhwydwaith yn mynd i’r afael â phob un o’r rhain o safbwynt pobl a phlant o bob oed ac yn archwilio anghydraddoldebau mewn manylder, a hynny o ran symudedd, systemau diogel a lleoedd iach.