Datblygu cwestiwn a dulliau ymchwil

Drwy fod yn benodol iawn am yr hyn sy’n cael ei brofi neu ei arsylwi, mae cwestiynau ymchwil yn caniatáu ichi bennu’r dulliau, nifer y cyfranogwyr sydd eu hangen, pa ddata sy’n cael eu casglu, a sut y cânt eu dadansoddi.

Cael cyngor oddi wrth arbenigwyr a’r cyhoedd

Bydd cael sylwadau oddi wrth arbenigwyr, darparwyr gwasanaethau a/neu’r cyhoedd a chleifion yn y maes diddordeb yn helpu’r broses o ddatblygu cwestiynau a dulliau ymchwil cadarn.

Gellir cael cyngor oddi wrth y Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil a’r unedau treialon clinigol. Gall cael gafael ar wybodaeth arbenigol, e.e. mewn economeg iechyd, wella cryfder a hygrededd y cynnig ymchwil yn sylweddol hefyd, ac mae cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn hanfodol i ymchwil sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a’r dasg o gyflenwi ymchwil yn effeithiol.

Cael cyngor oddi wrth sefydliadau’r GIG a gofal cymdeithasol

Dylai ymchwilwyr sy’n bwriadu cael gafael ar gofnodion cleifion y GIG neu recriwtio cleifion neu staff y GIG ar gyfer astudiaeth gysylltu â swyddfa ymchwil a datblygu’r GIG yn y sefydliad y maent yn bwriadu cynnal yr astudiaeth ynddo.

Mae ymgysylltu’n gynnar â’r swyddfa ymchwil a datblygu lleol yn sicrhau bod y staff, yr adnoddau a’r mynediad cywir ar gael. Mae hyn yn cynnwys a yw’r sefydliad GIG yn cynnig y triniaethau neu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer yr astudiaeth, a yw staff nyrsio ymchwil ar gael i gyflenwi astudiaeth ac ati.

Gall sefydliadau gofal cymdeithasol ddarparu cymorth tebyg. Os ydych yn ansicr ai ymchwil gofal cymdeithasol yw eich prosiect, mae’n bosibl y bydd y canllawiau hyn yn helpu.

Effaith a rhannu eich canfyddiadau

Mae’n bwysig ystyried sut y byddwch yn rhannu eich canfyddiadau o gamau cynllunio eich prosiect ac na fyddwch yn eu gadael nes bydd yr ymchwil wedi ei chwblhau. 

Ni ddylid cyfyngu rhannu gwybodaeth am ymchwil i ddiwedd yr astudiaeth - yn aml, mae codi ymwybyddiaeth o’r astudiaeth wrth iddi ddechrau a rhannu canfyddiadau interim yn ddefnyddiol i gefnogi ymgysylltiad ac i ddatblygu momentwm. Darllenwch fwy am effaith eich canfyddiadau, a’r broses o’u rhannu.