Y cytundeb ymchwil clinigol

Efallai y bydd angen cytundeb ymchwil clinigol ar waith ar eich astudiaeth, a elwir weithiau yn gontract rhwng noddwr yr ymchwil a’r safle lle mae’r ymchwil yn cael ei chynnal.

Mae hyn yn nodi natur yr astudiaeth, y swyddogaethau, y cyfrifoldebau a rhwymedigaethau yr holl bartïon sy’n cymryd rhan. Mae ffurf y cytundebau yn amrywio gan ddibynnu ar yr ymchwil, e.e. myfyrwyr ymchwil, treialon clinigol ar gynhyrchion meddyginiaethol, ymchwil dyfeisiau meddygol, neu ymchwil gofal sylfaenol, a byddai’n cynnwys ymchwil fasnachol ac anfasnachol.

I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.