Nodi noddwr ymchwil

Unigolyn, cwmni neu sefydliad sy’n derbyn cyfrifoldeb cyffredinol am yr astudiaeth yw noddwr. Mae hyn yn cynnwys dechrau a rheoli’r astudiaeth, gan gynnwys rheolaeth ariannol. Gallai hyn fod yn brifysgol, yn sefydliad GIG, yn awdurdod lleol neu yn achos ymchwil fasnachol, y cwmni sy’n contractio’r astudiaeth.

Mae angen noddwr ymchwil ar gyfer pob astudiaeth ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cynnwys cleifion y GIG, unrhyw samplau y gallwn eu cymryd oddi wrthynt a’u gwybodaeth. Mae angen noddwr hefyd ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol sy’n cynnwys ymarferwyr, cleientiaid ac adnoddau.

Mae’r noddwr yn rheoli ond nid yw’n cynnal yr astudiaeth, a gall rannu neu ddirprwyo rhai o’i gyfrifoldebau drwy gytundeb ysgrifenedig. Mae ganddo swyddogaeth lywodraethu eang i sicrhau uniondeb yr ymchwil, gan ddiogelu cyfranogwyr yr ymchwil a’r ymchwilwyr.

Yn rhan o’n cwrs hyfforddi, arferion clinigol da, gallwch ddysgu am swyddogaethau a chyfrifoldebau’r noddwr.