Beth ydy Portffolio Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae Cyfeiriadur Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gronfa ddata o’r holl astudiaethau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, banciau bio a chofrestrfeydd data ymchwil sy’n weithredol yng Nghymru.

Mae Portffolio Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gronfa ddata o’r holl ymchwil anfasnachol a’r holl ymchwil fasnachol o ansawdd uchel sy’n weithredol yng Nghymru. Mae pob gwlad yn y DU yn rheoli ei phortffolio ymchwil ei hun ac mae’n rhaid i bob astudiaeth fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.

Gall yr astudiaethau hyn gael eu hariannu gan amrywiaeth o gyllidwyr - gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, cynghorau ymchwil, y diwydiant gwyddorau bywyd, elusennau, llywodraethau canolog a thramor.

Rheolir cofrestriadau ar y portffolio yn awtomatig drwy broses gymeradwyo’r Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel rhan o’ch cais IRAS.

Os nad oes angen cymeradwyaeth oddi wrth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar eich astudiaeth, fe gewch gyflwyno’ch astudiaeth i’r tîm portffolio i’w hadolygu ar gyfer ei mabwysiadu ar y portffolio.

Os yw’ch astudiaeth yn gymwys ar gyfer y portffolio, fe gewch gyfle i gael cymorth cyflenwi astudiaeth. Os nad yw’n gymwys ar gyfer y portffolio, bydd yn rhaid i’r sefydliad sy’n lletya neu grant ymchwil dalu’r holl gostau ar gyfer cyflenwi’r astudiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.