Yr effaith
Mae effaith yn disgrifio manteision neu oblygiadau’r ymchwil i’r GIG, y gymdeithas a’r economi. Dyma’r hyn y mae’r ymchwil yn ceisio ei gyflawni yn y pen draw drwy newidiadau mewn polisi, arferion neu ofal, ac felly mae angen ei hystyried yn ofalus wrth ddatblygu’r syniad ymchwil.
Dylai’r broses o ystyried effaith unrhyw astudiaeth gynnwys cleifion, aelodau o’r cyhoedd, cyllidwyr, ymarferwyr iechyd neu ofal cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill ar ddechrau’r gwaith o ddatblygu ymchwil.
Yn aml, bydd angen i gyllidwyr ddeall mesurau clir yr effaith ar ymchwil cyn dyfarnu cyllid.
Os oes gennych chi grant ymchwil, cymrodoriaeth neu ysgoloriaeth a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu gyngor ymchwil UKRI, bydd angen i chi adrodd ar effaith eich ymchwil trwy Researchfish trwy gydol cyfnod y prosiect ac am bum mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben. Mae hyn yn golygu y gall cyllidwyr ymchwil olrhain, dadansoddi a dangos gwerth ac effaith ymchwil a ariennir yn gyhoeddus.
Mae Researchfish yn eich galluogi i gofnodi ystod o gynhyrchion ac effeithiau, er enghraifft cyhoeddiadau, gweithgareddau ymgysylltu, cynhyrchion masnachol, cynhyrchion creadigol, deunydd ymchwil a dylanwad ar bolisi. Mae adroddiad yn rhoi esiamplau o’r gwahanol effeithiau a adroddir gan sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gael i’w lawrlwytho.
Ceir amrywiaeth o offerynnau effaith ymchwil gan sefydliadau ymchwil i’ch cefnogi chi:
- Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol - pecyn cymorth effaith
- Cynllun Effaith NIHR
- Pecyn cymorth NIHR ar NIHR Open Learn – dangosfwrdd rhyngweithiol sy’n crynhoi ac yn cyfeirio at ystod o offerynnau ac adnoddau ymarferol eraill sydd ar gael i gefnogi cynllunio, cyflawni ac asesu effaith ymchwil.