Polisïau, safonau a deddfwriaeth

Mae angen ichi sicrhau eich bod yn cynnal ymchwil i’r safonau gofynnol a’ch bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol. Mae hyn yn golygu bod yn ymwybodol o’r polisïau, y safonau a’r ddeddfwriaeth sy’n diffinio sut y caiff ymchwil ei rheoli a’i chynnal, gan sicrhau diogelwch a lles i’r cyhoedd.

Gallwch ddarllen y polisïau, y safonau a’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf ar wefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd.

Caiff cydymffurfio â safonau a deddfwriaeth ei hasesu drwy’r broses o gael cymeradwyaeth Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.