Archifo

Mae’n rhaid cadw cofnodion ymchwil am gyfnod priodol er mwyn caniatáu gwaith dadansoddi ychwanegol a chefnogi rhagor o waith monitro. Mae hyn yn sicrhau cywirdeb a thryloywder y data a gesglir. Bydd y cyfnodau cadw yn dibynnu ar fath yr astudiaeth ac ar fath y ddata/cofnodion ymchwil hefyd.

Mae gan gyrff adolygu, megis yr Awdurdod Ymchwil Iechyd ac Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, ganllawiau ar gadw cofnodion a chan ei bod yn debygol y bydd goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer storio llawer iawn o gofnodion am amser maith, mae gan sefydliadau ymchwil lleol eu polisïau archifo eu hunain. Dylid ystyried y rhain ynghyd â chanllawiau, ac unrhyw ymgymeriadau y cytunwyd arnynt wrth dderbyn cyllid.

Dylid bod eglurder o ran pwy sy’n gwarchod ac yn berchen ar ddata ymchwil sydd wedi eu harchifo, samplau a deunydd cysylltiedig, a chytundebau sydd ar waith i egluro cyfrifoldebau a threfniadau ar gyfer mynediad neu rannu.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu hyfforddiant ar reoli dogfennau hanfodol.

I gael rhagor o gyngor, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.