Nodi partneriaid a chydweithredwyr

Gall nodi a mynd at ddarpar bartneriaid neu gydweithwyr yn gynnar yn unrhyw ymchwil helpu i ddatblygu syniadau’n fawr. Dylai’r rhain gynnwys cleifion a’r cyhoedd ac fe gânt gynnwys ymchwilwyr eraill, arbenigwyr yn y maes, cwmnïau masnachol, elusennau, y llywodraeth, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau. Bydd yr hyn y gallant hwy ei gyfrannu i’r prosiect, ac y gallwch chi ei roi iddynt hwy, yn amrywio’n unol â hynny ond gallent gynnwys sicrhau bod safbwyntiau cleifion yn cael eu bodloni, alinio ymchwil â blaenoriaethau polisi ac ymarfer, neu ddarparu cyllid neu adnoddau.

Gall Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru roi cwmnïau masnachol mewn cysylltiad â chlinigwyr sydd â diddordeb, academyddion a rheolwyr yn y GIG a sefydliadau academaidd.

Gall cymuned ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynnig cyngor arbenigol.