Nodi staff ymchwil i gynnal yr astudiaeth
Er mwyn sicrhau diogelwch y cyfranogwyr, ansawdd yr ymchwil a’r gofynion cyfreithiol, mae’n rhaid i bob aelod o staff fod â’r sgiliau a’r arbenigedd cywir i weithio ar bob agwedd ar yr astudiaeth.
Gan ddibynnu ar raddfa a math yr ymchwil, efallai y bydd un ymchwilydd neu dîm mwy o ymchwilwyr sydd wedi eu hyfforddi ac sy’n gallu cynnal yr astudiaeth yn unol â’r amserlen.
Mae’n hanfodol nodi’r adnoddau staff sydd eu hangen yn ystod y cam cyntaf o ddatblygiad yr astudiaeth. Mae hyn yn helpu i ddewis a pharatoi safleoedd.
Gan ddibynnu ar eu swyddogaeth yn yr astudiaeth, gallai staff gael eu hariannu gan y grant ymchwil, gan ran o gefnogaeth a chyflenwad ymchwil y GIG, neu ran o’r gwasanaeth lle cynhelir yr ymchwil.
Hyfforddi staff sy’n rhan o’r astudiaeth
Mae angen i’r holl staff sy’n gweithio ar yr astudiaeth ymchwil fod yn barod am eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau yn yr astudiaeth.
Dylai hyfforddiant fod yn gymesur â’r swyddogaeth yr ymgymerir â hi ac mae angen tystiolaeth o hyfforddiant pan fo sefydliad yn cadarnhau bod ganddo’r gallu i gynnal yr astudiaeth.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnig hyfforddiant mewn:
- arferion clinigol da a llywodraethu ymchwil
- cydsyniad dilys ar sail gwybodaeth a dogfennau hanfodol
- sgiliau cyfathrebu
- cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil
Adnoddau defnyddiol
Lawrlwythwch ein harweiniad ar sut i sefydlu cronfa nyrsys ymchwil.
Disgrifiadau swydd enghreifftiol: Swyddog Ymchwil Clinigol (band 5); Uwch-swyddog Ymchwil (band 6); Nyrs Ymchwil (band 5); Nyrs Ymchwil Glinigol (band 6).
Crëwyd siart llif hefyd ar gyfer arweinwyr gwerthuso swyddi sy’n disgrifio’r broses ar gyfer creu, dilysu a lanlwytho swydd-disgrifiadau ar gyfer recriwtio.
Cysylltwch â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gael rhagor o wybodaeth ynghylch nodi staff ymchwil a chyngor ar hyfforddiant.