Cyflwyno ceisiadau grant ar gyfer cyllid ymchwil

Ar gyfer astudiaethau ymchwil anfasnachol, dylid nodi cyllidwyr addas yn gynnar. Pennir y cynllun yr ydych yn gwneud cais amdano gan y maes pwnc a’r math o ymchwil a gynhelir.

Ochr yn ochr â chynlluniau ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae gan elusennau a sefydliadau annibynnol gynlluniau ar sail clefyd neu bwnc penodol yn aml. Mae gan bob cynllun gymhwysedd, amserlenni ac amcanion penodol y mae angen i’r cais am grant gyd-fynd â hwy. Gall y Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil eich helpu gan eich cyfeirio at gynlluniau ariannu posibl a allai fod yn addas i’ch ymchwil.

Bydd cyllidwyr yn edrych i weld a fu’r cyhoedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil a bydd paneli ariannu yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd a fydd yn rhan o’r panel adolygu. Gall yr adolygwyr cyhoeddus argymell gwrthod ceisiadau am gynigion os nad ystyrir bod cynnwys y cyhoedd yn ddigonol neu’n ystyrlon.