Adolygiad moesegol
Mae’r cais a wneir drwy’r system ymgeisio integredig ar gyfer ymchwil (IRAS) yn cynnwys adolygiad moesegol o’ch astudiaeth, gan alluogi rhwydwaith o bwyllgorau moeseg ymchwil annibynnol yn y DU i adolygu’r protocol a rhoi barn ar agweddau moesegol a derbynioldeb y gweithgaredd arfaethedig.
Mae IRAS yn rhoi gwybodaeth am eich astudiaeth i wasanaeth pwyllgor moeseg ymchwil y DU, lle caiff ei dyrannu i bwyllgor moeseg sydd ar gael i’w hadolygu drwy broses ar-lein.
Mae pwyllgorau moeseg ymchwil yn gwbl annibynnol ar noddwyr ymchwil, cyllidwyr ac ymchwilwyr, sy’n sicrhau eu bod yn rhoi cyfranogwyr a’u hurddas, eu hawliau, eu diogelwch a’u lles wrth wraidd eu hadolygiad.
Mae’r saith pwyllgor moeseg ymchwil yng Nghymru yn rhan o wasanaeth pwyllgor moeseg ymchwil y DU.