Dogfennau hanfodol ar gyfer cynnal yr astudiaeth

Mae angen cyfres o ddogfennau hanfodol er mwyn sicrhau bod astudiaeth yn cael ei sefydlu’n gyflym a’i bod yn cael ei rheoli’n effeithlon ac yn ddiogel.

Mae gweithdrefnau gweithredu a thempledi safonol ar gael i helpu i sefydlu’r holl ddogfennau hanfodol sy’n ofynnol ar gyfer yr astudiaeth.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnig hyfforddiant ar reoli dogfennau hanfodol mewn ymchwil hefyd.

Dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gael rhagor o wybodaeth.