Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd

Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn rheoleiddio meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol a chydrannau gwaed ar gyfer trallwysiadau yn y DU. Asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Iechyd yw’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

Os yw eich astudiaeth yn dreial clinigol o gynnyrch meddyginiaethol, mae’n ofynnol ichi gael awdurdodiad treial clinigol oddi wrth yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd drwy’r system ymgeisio integredig ar gyfer ymchwil (IRAS), cyn y gall yr ymchwil ddechrau.

Os yw eich astudiaeth yn ymchwiliad clinigol neu’n astudiaeth arall o ddyfais feddygol, efallai y bydd angen ichi roi gwybod i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a chael llythyr sy’n cadarnhau nad oes gwrthwynebiad cyn y gallwch gynnal eich astudiaeth.  Gweler gwefan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd i gael gwybodaeth am sut i hysbysu’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd am eich ymchwiliad clinigol.