Rhoi terfyn ar y broses recriwtio a dechrau’r gwaith dilynol
Mae cau’r astudiaeth yn rhan o brotocol yr astudiaeth sydd wedi ei diffinio’n glir. Mae hyn yn nodi diwedd yr astudiaeth pan fo’r holl weithgareddau protocol wedi eu cwblhau.
Ar ôl recriwtio’r nifer o gyfranogwyr sy’n ofynnol, mae’r astudiaeth ar gau o ran recriwtio ac adroddir ar hyn i’r cyllidwyr a’r rheoleiddwyr. Efallai y bydd angen gwaith dilynol ar brotocol yr astudiaeth.
Mae ymchwilwyr yn parhau i gasglu data yn ystod cam dilynol astudiaeth. Efallai y bydd angen staff ac adnoddau eraill i gefnogi gwaith dilynol cyfranogwyr ac mae angen ystyried hyn yn ystod y broses o sefydlu’r astudiaeth.
I gael cymorth, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.