Nodi costau astudio yn y GIG a gofal cymdeithasol

Dylid nodi cost ymchwil yn ystod y cam datblygu ac mae’n hanfodol am nifer o resymau. Gallwch lawrlwytho templedi safonol a dod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran hon.

Mae angen costau cywir wrth wneud cais am grantiau cyllid ymchwil, gan fod angen gwybodaeth ariannol gredadwy ar bob un o’r cyllidwyr a dim ond y symiau a ddyfernir y byddant yn eu talu. Maent hefyd yn sicrhau bod sefydliadau’r GIG a gofal cymdeithasol sy’n cymryd rhan yn cael eu hariannu’n llawn i gyflenwi’r ymchwil ac y gellir cwblhau’r astudiaeth. Mae tryloywder mewn costau hefyd yn galluogi trafodaeth pan fo costau’r byd go iawn yn newid, a allai atal mynediad at wasanaethau’r GIG a sefydliadau gofal cymdeithasol fel arall.

Mae gwahaniaethau allweddol yn bodoli rhwng ymchwil fasnachol ac anfasnachol wrth gostio astudiaeth.

Ymchwil anfasnachol (wedi ei hariannu gan grantiau neu debyg)

Mae astudiaethau ymchwil yn cynnwys nifer o weithgareddau cydrannol, sydd, at ddibenion cytuno ar drefniadau ariannu, yn cael eu priodoli i un o dri chategori cost eang:

  • Costau ymchwil - costau’r ymchwil a datblygu ei hun sy’n dod i ben pan ddaw’r ymchwil i ben. Maent yn ymwneud â gweithgareddau a ymgymerir er mwyn ateb cwestiynau’r ymchwil.
  • Costau triniaeth y GIG - y costau gofal, a fyddai’n parhau i gael eu hysgwyddo pe bai’r gwasanaeth gofal dan sylw yn parhau i gael ei ddarparu ar ôl i’r astudiaeth ymchwil a datblygu ddod i ben.
  • Costau cymorth y GIG - y costau gofal ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r ymchwil, a fyddai’n dod i ben ar ôl i’r astudiaeth ymchwil a datblygu dan sylw ddod i ben, hyd yn oed pe byddai’r gofal cleifion dan sylw yn parhau i gael ei ddarparu.

Mae angen ymgorffori’r gost o gynnwys y cyhoedd mewn costau ymchwil. Mae cyfrifiannell ar gyfer cyfrifo’r gost o gynnwys y cyhoedd ar gael.

Wrth gynllunio astudiaeth, mae angen i’r ymchwilydd arweiniol briodoli costau yn unol â fframwaith polisi’r DU gyfan - gan briodoli costau ymchwil a datblygu iechyd a gofal cymdeithasol (AcoRD).

Mae'r fframwaith hwn yn bodoli i helpu ymchwilwyr i nodi, adfer a phriodoli costau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn gywir mewn modd tryloyw a chyson.

Canllawiau AcoRD Cymru:

Canllawiau AcoRD Cymru

Canllawiau AcoRD Cymru atodiad A

Canllawiau AcoRD Cymru atodiad B

Templed  atodlen pennu costau digwyddiad (SoECAT)

Mae’n ofynnol i bob ymchwilydd sy’n gwneud cais am grantiau ymchwil clinigol penodol gwblhau SoECAT yn rhan o’r broses o wneud cais am grant. Mae hyn yn caniatáu i gyllidwyr gael sicrwydd bod cost y gweithgareddau yn yr astudiaeth wedi eu priodoli’n gywir yn unol ag AcoRD.

I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Er mwyn priodoli costau eich astudiaeth yn gywir, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnig cyflwyniad i gwrs hyfforddi AcoRD a fydd yn dweud mwy wrthych ynghylch pam fo AcoRD yn bwysig.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil yn sefydliadau’r GIG a gofal cymdeithasol, ac maent yn darparu cyllid cymorth ar gyfer astudiaethau anfasnachol. Gellir gweld canllawiau a ffurflenni cais i gefnogi eich astudiaeth ar dudalen ariannu’r gwaith o gyflenwi ymchwil Cymru gyfan.

Ymchwil fasnachol

Yma, nid yw’r categorïau cost yn broblem. Yn hytrach na hynny, mae’r cyllid yn sicrhau y darperir yr holl gostau sy’n ychwanegol at ofal safonol.

Mae’r offeryn costio rhyngweithiol yn darparu fframwaith ar gyfer arddangos a chyfrifo costau tryloyw, er mwyn cefnogi trafodaethau cyflym ar gyllideb y safle lleol wrth gynllunio treialon masnachol yn y GIG.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr offeryn costio rhyngweithiol ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.

Cysylltwch â gwasanaeth cymorth a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gael cyngor ar gwblhau’r offeryn costio rhyngweithiol.