Trefniadau gweithredu safonol
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu cyfres o drefniadau gweithredu safonol i Gymru gyfan er mwyn cefnogi’r gwaith o sefydlu a chyflenwi ymchwil yn effeithlon. Mae holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru wedi cytuno ar y trefniadau gweithredu safonol hyn.
Trefniad gweithredu safonol 1 - trefniad gweithredu safonol ar drefniadau gweithredu safonol
Trefniad gweithredu safonol 2 - trefniad gweithredu safonol ar arferion clinigol da
Mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd a’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn argymell dull cymesur o gymhwyso arferion clinigol da ac o hyfforddi’r holl staff sy’n ymwneud â threialon clinigol yn briodol ac felly, maent wedi rhyddhau datganiad Awdurdod Ymchwil Iechyd/Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ar y cyd ar gymhwyso hyfforddiant arferion clinigol da i ymchwilwyr (fersiwn 1.1 Hydref 2017) er mwyn egluro’r gofynion ar gyfer hyfforddiant arferion clinigol da. Mae hyn wedi ei gymeradwyo gan bob un o bedair gwlad y DU ac fe’i hadlewyrchir yn y trefniad gweithredu safonol hwn.
Ei ddiben yw amlinellu dull Cymru gyfan o fabwysiadu canllawiau’r DU sy'n argymell gofynion priodol a chymesur ar gyfer hyfforddiant arferion clinigol da, er mwyn sicrhau bod gan y gweithlu ymchwil gymwysterau, hyfforddiant a phrofiad priodol i gynnal astudiaethau’n gymwys, yn unol â’u swyddogaeth astudio a chan gydymffurfio â deddfwriaeth llywodraethu ymchwil y DU a deddfwriaeth berthnasol.
Gallai trefniadau gweithredu safonol nad ydynt wedi eu cynnwys yn y rhestr uchod fod wrthi’n cael eu hadolygu neu’n cael eu datblygu felly, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.