Adolygu’r llenyddiaeth

Mae asesu’r wybodaeth gyfredol sydd ar gael yn eich pwnc ymchwil yn allweddol er mwyn osgoi dyblygu gwaith pobl eraill, dewis y dulliau cywir ac adeiladu’r dystiolaeth ar gyfer eich cynnig ymchwil.

Chwiliad a gwerthusiad o’r llenyddiaeth sydd ar gael yn eich maes pwnc ymchwil yw’r adolygiad o’r llenyddiaeth. Bydd ffynonellau’n debygol o gynnwys papurau ymchwil, llyfrau a chyhoeddiadau yn y cyfryngau ymhlith eraill. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gynnal adolygiadau o’r llenyddiaeth ac adnoddau ar gyfer cael gafael ar y llenyddiaeth a’i hasesu drwy’r Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil a’r gwasanaethau llyfrgell lleol.

Dylai eich adolygiad o’r llenyddiaeth anelu at ddisgrifio terfynau’r wybodaeth gyfredol, a’r theori a’r dulliau ymchwil sy’n sail i’r wybodaeth hon. Wrth wneud hynny, mae’n eich galluogi i ddatblygu eich syniad ymchwil yng nghyd-destun yr hyn sydd eisoes yn hysbys ac sy’n cael ei ystyried yn y maes pwnc hwnnw.

Mae’r cwrs hyfforddiant cyflwyniad i ddulliau ymchwil yn darparu dealltwriaeth sylfaenol o ddulliau ymchwil. Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae hyn yn hanfodol er mwyn helpu ymarferwyr i gymryd rhan weithredol mewn ymchwil. Mae’r cwrs hwn wedi ei anelu at staff ymchwil newydd a staff anghlinigol, staff clinigol a defnyddwyr gwasanaeth sy’n ystyried ehangu eu swyddogaeth ymchwil.