Cael adolygiad gan gymheiriaid

Adolygiad gan gymheiriaid yw pan fo’r protocol yn cael ei asesu’n feirniadol gan un neu fwy o arbenigwyr ym maes yr astudiaeth, er mwyn rhoi sicrwydd ansawdd i’r noddwr, y cyllidwr a’r corff cymeradwyo. Yn annibynnol ar unrhyw gorff ariannu neu gymeradwyo ymchwil, ni all adolygwyr cymheiriaid fod yn rhan o’r gwaith o baratoi nac o ddatblygu’r protocol. Fodd bynnag, gall eu hasesiad helpu i ddatblygu’r protocol. 

Gallai arbenigwr yn y maes fod yn glaf neu’n aelod o’r cyhoedd - canfyddwch sut i gynnwys aelodau o’r cyhoedd yn eich ymchwil.

Gall y grwpiau cymuned ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru canlynol eich helpu i gael eich prosiect wedi ei adolygu gan gymheiriaid.