Dadansoddi data
Dadansoddir y data a gynhyrchwyd ac a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth er mwyn adrodd ar ganfyddiadau’r astudiaeth. Disgrifir y dull dadansoddi ym mhrotocol yr astudiaeth y cytunir arno wrth ddatblygu’r syniad a’r protocol ymchwil.
Gallai dadansoddi data gynnwys meddalwedd a sgiliau penodol hefyd fel y gellid dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i uned treialon clinigol sy’n cynnig cymorth arbenigol.
Gall Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynnig cymorth arbenigol drwy:
- Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil
- Unedau treialon clinigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
- Gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru