Gwneud trefniadau ar gyfer costau cymorth a chostau ychwanegol triniaethau yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol

Costau cymorth

Mae’r gost o gyflenwi ymchwil ym maes gofal eilaidd y GIG (costau cymorth) yn cael ei dalu o gyllid cymorth a chyflenwi lleol sefydliadau lleol y GIG.

Bydd angen ichi sicrhau bod y costau hyn yn cael eu nodi’n glir fel rhan o’ch costau. Mae hyn yn caniatáu i sefydliadau’r GIG reoli adnoddau megis nyrsys ymchwil er mwyn cyflenwi’r astudiaeth.

Gellir cwmpasu’r gost o gyflenwi ymchwil ym maes gofal sylfaenol y GIG, gofal cymdeithasol, iechyd y cyhoedd a gofal brys, costau cymorth, drwy gronfa ganolog Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  Ceir rhagor o wybodaeth am wneud cais am gostau cymorth isod.

Costau ychwanegol triniaethau

Cyfrifoldeb y GIG a’r awdurdod lleol yw costau defnyddwyr gwasanaethau’r GIG sy’n gysylltiedig ag ymchwil, a dylid eu hariannu drwy drefniadau comisiynu arferol.

Cyfrifoldeb y GIG/awdurdod lleol yw costau ychwanegol triniaethau hefyd, sef y costau sy’n ychwanegol at ofal sylfaenol, ond efallai y bydd cyllid ar gael ar gyfer y rhain drwy gronfa ganolog Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Pan ddefnyddir templed atodlen pennu costau digwyddiadau (SoECAT) ar gyfer cais am grant/cais IRAS ar gyfer astudiaethau anfasnachol, lle’r sefydliad lleol yw penderfynu a hoffent ddefnyddio’r ffigur a gynhyrchwyd gan y SoECAT neu gwblhau ffurflen gais costau ychwanegol triniaethau.

Gellir defnyddio’r ffigur costau ychwanegol triniaethau a gynhyrchir gan y SoECAT - er mwyn osgoi’r angen i lenwi ffurflen gais costau ychwanegol triniaethau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r dull hwn yn cynhyrchu gwerth costau ychwanegol triniaethau cyfartalog sydd yr un fath ar gyfer holl ganghennau’r astudiaeth. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am gostau ychwanegol triniaethau isod. Mae’r broses hon yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall sefydliad y GIG ac awdurdodau lleol nodi a gwneud cais am y cyllid cywir, gan osgoi oediadau.

Costau ychwanegol triniaethau - canllawiau ar gyfer gofal eilaidd 

3.1 Canllawiau ynghylch costau ychwanegol triniaethau

3.2 Cais am gostau ychwanegol triniaethau

3.3 Templed costau ychwanegol triniaethau

Costau cymorth/costau ychwanegol triniaethau ar gyfer gofal sylfaenol, gofal brys, Iechyd Cyhoeddus Cymru a gofal cymdeithasol

4.1 Cais am gostau cymorth gofal nad ydynt yn eilaidd

4.2 Cais am gostau ychwanegol triniaethau nad ydynt yn eilaidd

I gael cyngor arbenigol, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.