Rhannu canfyddiadau

Mae’n rhaid ichi sicrhau bod canfyddiadau’r astudiaeth yn hygyrch ac yn cael eu defnyddio’n weithredol i helpu i wneud penderfyniadau ac i newid arferion mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Gallwch wneud hyn drwy rannu neu ledaenu’r canfyddiadau â gwahanol gynulleidfaoedd.

Gall Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ddarparu cyngor arbenigol i’ch helpu i ledaenu canfyddiadau eich ymchwil.

Bydd ein hadnoddau a’n canllawiau brand yn eich helpu i ddefnyddio ein logos ac elfennau dylunio eraill yn eich cyfathrebiadau, eich gwefannau a’ch cyflwyniadau eich hun.

Beth allwch chi ei wneud dros Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru?

  • Sicrhau bod cyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cael ei gydnabod mewn unrhyw ddatganiadau i’r wasg, mewn cyflwyniadau ac ar eich gwefan:
    • Ariennir X gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
  • Mae’n rhaid i unrhyw ddatganiadau i’r wasg sy’n ymwneud ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynnwys dyfyniad gennym ni – rhowch rybudd ymlaen llaw inni ynghylch unrhyw gyhoeddiadau a datganiadau i’r wasg.
  • Dylid cael yr ymwadiad canlynol mewn unrhyw erthygl mewn cyhoeddiad ymchwil neu gyfnodolyn:
    • Ariennir yr astudiaeth hon gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Safbwyntiau’r awdur/awduron yw’r rhai a fynegir ac nid rhai Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru na Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Sianeli lledaenu

Gellir rhannu canfyddiadau ymchwil drwy gyhoeddiadau, mewn cynadleddau, drwy grynodebau lleyg a thrwy nifer o sianelau eraill, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.

  • Gallwch ddefnyddio Twitter i rannu eich ymchwil yn rhwydd ac yn gyflym gyda nifer fawr o bobl.
  • Rhannwch eich ymchwil drwy dudalennau Facebook cyhoeddus, neu gyda chymunedau penodol drwy grwpiau preifat.
  • Mae platfform Reddit yn cynnig cyfle gwych ichi ymgysylltu â sylfaen gref o 250 miliwn o ddefnyddwyr, mewn is-adrannau penodol sy’n berthnasol i’ch pwnc ymchwil.
  • Mae ymchwil yn cynnwys cydweithredu ac mae proffil LinkedIn yn ffordd wych arall o rwydweithio a rhannu syniadau.
  • Mae pobl yn treulio mwy o amser nag erioed yn gwisgo eu clustffonau, yn gwrando ar bodlediadau, sy’n rhoi cyfle perffaith ichi gyfathrebu â hwy gan hawlio eu sylw llawn.
  • Gall ymgysylltu â’r cyfryngau, drwy ddatganiad i’r wasg, eich helpu i ddweud wrth y byd am eich ymchwil.
  • Mae sefydlu cyfathrebiadau astudio, megis gwefan neu gylchlythyr dynodedig, yn hanfodol er mwyn rhoi gwybod i randdeiliaid a’r cyhoedd am gynnydd eich ymchwil.
  • Bydd gallu blogio am eich ymchwil mewn iaith glir yn eich helpu i rannu eich ymchwil â chynulleidfa ehangach, fwy cyffredinol.
  • Bydd cyflwyno mewn digwyddiadau, megis cynhadledd, yn cynyddu amlygiad eich ymchwil ac yn rhoi cyfle ichi gael sylwadau.
  • Mae ffeithluniau yn ffordd wych o helpu pobl i ddeall llawer o wybodaeth gymhleth.
  • Mae fideos yn ffordd wych o gyfleu cysyniadau cymhleth mewn ffordd glir a diddorol.

I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar rannu canfyddiadau eich ymchwil, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.