Female medical professional in lab

Gwasanaethau i ddiwydiant

Mae tîm diwydiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu nifer o wasanaethau i gefnogi sefydlu a chynnydd eich astudiaeth ymchwil fasnachol yn GIG Cymru.

Mae gan cin cyfleusterau GIG a'n staff ymroddedig brofiad o weithio gydag ystod o randdeiliaid, o gwmnïau Biotechnoleg a Diagnosteg i gwmnïau Fferyllol mawr. Mae gan y noddwyr masnachol rydyn ni'n gweithio gyda nhw anghenion amrywiol; mae angen cefnogaeth ar rai gydag astudiaeth un-ganolfan sydd â gweithdrefnau arbenigol a chymhleth, ac mae eraill eisiau sefydlu astudiaethau aml-safle sy'n canolbwyntio ar recriwtio nifer fawr o gyfranogwyr.

Beth bynnag fo'ch gofynion, mae ein tîm diwydiant ymroddedig, staff cyflenwi arbenigol ac arweinwyr arbenigedd clinigol wrth law i ddarparu cyngor arbenigol a mewnbwn clinigol i'ch galluogi i gynllunio, sefydlu a darparu eich astudiaeth yn llwyddiannus o fewn GIG Cymru.

Mae ein GIG integredig yng Nghymru yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer ymchwil ac arloesi, ac mae ganddo'r potensial i chwarae rhan sylweddol mewn creu gwell therapïau a thechnolegau. Mae GIG Cymru hefyd yn darparu arbenigedd ar draws yr ystod lawn o arbenigeddau clinigol ac mae prifysgolion Cymru yn gartref i ymchwilwyr gwyddor bywyd sy'n arwain y byd.

Mae'r cryfderau hyn, ynghyd â llywodraeth sydd wedi ymrwymo i wella'r seilwaith i gefnogi ymchwil a gofal sy'n gysylltiedig ag iechyd a sector masnachol ffyniannus, yn gwneud Cymru yn lle delfrydol i ymgymryd ag ymchwil

Ymgysylltu cynnar

Mae gwasanaeth gwybodaeth a chyngor ar gael i gwmnïau sydd am gychwyn neu ehangu ar eu gweithgareddau ymchwil a datblygu yng Nghymru. Darperir ymgysylltu cynnar a chyngor pwrpasol gan uwch reolwr ymroddedig yn y diwydiant, gydag adborth arbenigol gan arweinwyr clinigol a gweithredol fel rhan o'r broses.

Adnabod safleoedd ledled Cymru

Mae tîm diwydiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhan o'r gwasanaeth adnabod safleoedd ledled y DU a gynhelir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR). Bydd un sgwrs gyda'r tîm yn galluogi mynediad i'n hadnoddau ledled y wlad. Mae'r tîm yn gweithio i amseroedd troi cystadleuol o ran adnabod safleoedd a rhoi adborth, gyda cheisiadau brys yn cael eu prosesu mewn 48 awr a cheisiadau safonol yn cael eu prosesu mewn 10 diwrnod. Brysbennir astudiaethau gydag adborth gan arweinwyr arbenigedd ymroddedig a staff cyflenwi ymchwil arbenigol i nodi'r safleoedd mwyaf addas yng Nghymru ar gyfer eich astudiaeth.

Gwasanaeth dichonoldeb ledled Cymru

Ar ôl adnabod safleoedd, mae ein tîm diwydiant yn darparu gwasanaeth dichonoldeb cenedlaethol ar gyfer prosesau dichonoldeb mwy manwl a wneir gan y prif ymchwilydd a staff cyflenwi arbenigol lleol. Gwneir asesiadau dichonoldeb realistig a chynhwysfawr ar lefel safle sy'n ystyried recriwtio yn ôl amser a tharged, a galluoedd lleol. Caiff y gwasanaeth di-dor hwn ei gydlynu'n ganolog, ac mae'n rhychwantu safleoedd ymchwil gofal cymunedol, sylfaenol ac eilaidd.

Dewis, sefydlu a chyflenwi safleoedd

Mae ein timau diwydiant yn darparu goruchwyliaeth o ddewis safleoedd, sefydlu a chyflenwi astudiaethau gyda phwyntiau cyswllt pwrpasol a pharhaus. Defnyddir contractau safonol y DU a thempledi costio ac mae tîm contract a chyllid canolog wrth law i gefnogi'r broses sefydlu. Mae gennym dîm goruchwylio cenedlaethol a fynychir gan gymysgedd o arweinwyr ymchwil canolog a lleol sy'n arwain at gefnogi dull gweithredu cyson ledled Cymru. Mae tîm y diwydiant yn darparu goruchwyliaeth rheoli perfformiad gydag uwch reolwr diwydiant ymroddedig, gan gysylltu â phenaethiaid cyflenwi ymchwil rhanbarthol ar gyfer uwchgyfeirio a datrys problemau. Mae ein gwasanaethau goruchwylio a chymorth yn rhychwantu pob cam o ymchwil, o sefydlu astudiaethau a chymeradwyo i gloi cronfa ddata.

I ddarganfod mwy am unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â thîm y diwydiant ar industry-research@wales.nhs.uk