Nodi a recriwtio cyfranogwyr
Mae recriwtio i’r astudiaeth yn dechrau pan fydd cymeradwyaethau a chytundebau ar waith a’r noddwr wedi rhoi sêl i fendith i ddechrau.
Caiff cyfranogwyr ymchwil eu nodi a chysylltir â hwy, a rhoddir cydsyniad ar sail gwybodaeth i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
Tîm yr astudiaeth ymchwil sy’n recriwtio cyfranogwyr. Gall hyn gynnwys sgrinio cofnodion y GIG neu gofnodion gofal, atgyfeirio gan staff clinigol neu ofal cymdeithasol, a chyfathrebu, ymgysylltu â’r cyhoedd neu godi ymwybyddiaeth drwy grwpiau a fforymau.
Ceir cydsyniad i gymryd rhan yn yr astudiaeth drwy ffyrdd gwahanol, er enghraifft, yn ysgrifenedig ac wyneb yn wyneb neu ar-lein neu drwy’r post. Caiff y broses ei disgrifio’n glir bob amser yn y protocol cymeradwy.
Bydd angen i drefniadau penodol fod ar waith er mwyn cael cydsyniad ar sail gwybodaeth oddi wrth gyfranogwyr sydd â llai o alluedd meddyliol.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu cyrsiau hyfforddi mewn:
- arferion clinigol da
- cydsyniad dilys ar sail gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am alluedd meddyliol
- sgiliau cyfathrebu
Efallai y bydd staff cyflenwi ymchwil ar gael i gefnogi eich astudiaeth yn lleoliadau’r GIG ac mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.