A oes angen imi gofrestru’r astudiaeth?

Disgwylir i ymchwilwyr sicrhau tryloywder wrth gynnal ymchwil fel bod canfyddiadau ac arferion gorau yn cael eu rhannu er lles y cyhoedd. Mae tryloywder yn sicrhau hefyd nad yw ymchwil yn cael ei dyblygu ac nad yw’n ddiangen.

Mae’n rhaid i’ch astudiaeth fod wedi ei chofrestru ar gronfa ddata sydd ar gael i’r cyhoedd, ac ymdrinnir â hyn drwy system ymgeisio integredig ar gyfer ymchwil (IRAS) ar-lein y DU ar gyfer cael cymeradwyaeth oddi wrth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.