Datblygu protocol

Gall unedau treialon clinigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hwyluso cynnal treialon amserol a llwyddiannus o ansawdd uchel a sicrhau bod gofynion rheoleiddio a llywodraethu yn cael eu bodloni.

Gall Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru Gyfan roi cymorth a chyngor i’ch helpu i ddatblygu eich syniad ymchwil mewn protocol astudio.

Mae Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru Gyfan yn dwyn ynghyd dri thîm a leolir ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe.

Mae eu meysydd arbenigedd yn cynnwys:

  • llunio cwestiynau ymchwil
  • nodi methodolegau priodol
  • adeiladu tîm ymchwil
  • cynnwys cleifion a’r cyhoedd
  • rhoi cyngor ar ysgrifennu crynodebau lleyg
  • nodi cyfleoedd ariannu addas
  • cynllunio astudiaeth
  • creu cynigion ariannu sydd wedi eu llunio’n dda
  • cynghori ar faterion rheoleiddio a moesegol
  • nodi’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer prosiect llwyddiannus