Datblygu protocol
Gall unedau treialon clinigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hwyluso cynnal treialon amserol a llwyddiannus o ansawdd uchel a sicrhau bod gofynion rheoleiddio a llywodraethu yn cael eu bodloni.
Gall Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru Gyfan roi cymorth a chyngor i’ch helpu i ddatblygu eich syniad ymchwil mewn protocol astudio.
Mae Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru Gyfan yn dwyn ynghyd dri thîm a leolir ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe.
Mae eu meysydd arbenigedd yn cynnwys:
- llunio cwestiynau ymchwil
- nodi methodolegau priodol
- adeiladu tîm ymchwil
- cynnwys cleifion a’r cyhoedd
- rhoi cyngor ar ysgrifennu crynodebau lleyg
- nodi cyfleoedd ariannu addas
- cynllunio astudiaeth
- creu cynigion ariannu sydd wedi eu llunio’n dda
- cynghori ar faterion rheoleiddio a moesegol
- nodi’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer prosiect llwyddiannus