Lanlwytho gweithgaredd ymchwil
Mae’n ofynnol i bob astudiaeth* ar Bortffolio Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru lanlwytho eu gweithgaredd ymchwil i’r system rheoli portffolio lleol bob mis.
Pam mae angen cofnodi gweithgaredd recriwtio?
Mae gweithgaredd ymchwil ar gyfer astudiaethau portffolio yn ganolog i sicrhau y gall sefydliad gael gafael ar gyllid cymorth.
Sut mae lanlwytho gweithgaredd ymchwil i’r system rheoli portffolio lleol?
Bydd angen cyfrif defnyddiwr arnoch cyn y gallwch lanlwytho gweithgaredd ymchwil i astudiaeth. Os oes angen cyfrif newydd arnoch, gellir trefnu hyn drwy gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Ar ôl sefydlu cyfrif, byddwch yn gallu lanlwytho cyfansymiau gweithgareddau ymchwil misol ar gyfer y safleoedd yr ydych yn eu cwmpasu; yna, bydd y cyfansymiau hyn yn cael eu dilysu gan dîm canolog yr astudiaeth neu noddwr yn y system rheoli portffolios canolog.
Bydd y Prif Ymchwilydd, y Cydgysylltydd Astudio a’r Cydgysylltydd Gweithgaredd Ymchwil (fel y nodir yn ffurflen gofrestru’r astudiaeth) yn cael eu cofrestru â’r hawliau mynediad i gofnodion astudiaeth y system rheoli portffolios canolog.
Mae holl swyddogaethau tîm yr astudiaeth (yn y system rheoli portffolios canolog) yn gallu dilysu gweithgaredd ymchwil, fodd bynnag, y Cydgysylltydd Gweithgaredd Ymchwil sy’n bennaf gyfrifol am ddilysu data.
*Bydd nifer fach o astudiaethau yn gofyn i dîm canolog yr astudiaeth a noddwr i reoli’r gweithgaredd ymchwil drwy’r system rheoli portffolios canolog yn unig. Bydd noddwr yr astudiaeth yn cadarnhau’r trefniadau yn yr achosion hyn, ac ni fydd angen lanlwytho’r system rheoli portffolio lleol.
Adnoddau defnyddiol
Canllawiau i ddefnyddwyr systemau rheoli portffolios canolog
Os ydych yn cael unrhyw broblemau neu os oes gennych ymholiad, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.