Sicrhau bod yr astudiaeth yn cael ei chynnal yn brydlon ac yn unol â’r targed
Mae cyflenwi astudiaethau’n llawn ac yn brydlon yn bwysig er mwyn gallu cael y budd mwyaf o ymchwil yn gyflym.
Mae’n bwysig bod aelodau’r tîm ymchwil i gyd yn ymwybodol o’r amserlenni a’r targedau recriwtio a osodwyd ar gyfer yr astudiaeth fel ei bod yn cael ei rheoli mewn ffordd ddiogel, amserol ac effeithlon.
Mae cyflenwi’r astudiaeth yn brydlon a bodloni targedau recriwtio y cytunwyd arnynt yn sicrhau hefyd fod yr astudiaeth yn cael ei chadw o fewn y gyllideb.
Mae pob safle ymchwil yn atebol am gyflwyno’r astudiaeth yn brydlon a bodloni targedau recriwtio y cytunwyd arnynt a’r ymchwilydd arweiniol (y Prif Archwiliwr) sy’n parhau i fod yn gyfrifol am gyflenwi’r astudiaeth gyffredinol.
Pan maent yn cefnogi astudiaeth, mae gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu goruchwyliaeth genedlaethol ynghylch pa mor dda y mae astudiaethau’n cyflenwi ac a ydynt ar y trywydd iawn i fodloni’r hyn y cytunwyd arno. Drwy wneud hynny, gall y gwasanaeth cefnogi a chyflenwi helpu i nodi lle y gellir rhagweld unrhyw broblemau gyda chyflenwi, a’u datrys os byddant yn digwydd.
I gael cyngor, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.