Cyhoeddi erthygl mynediad agored
Mae cyhoeddi mynediad agored yn golygu bod ymchwil academaidd ar gael yn rhad ac am ddim, ar unwaith ac yn barhaol ar-lein i unrhyw un ei ddarllen. Mae'n annog rhannu gwybodaeth yn amserol, yn atal dyblygu a gwastraffu ymchwil, ac yn y pen draw yn cyflymu dilyniant ymchwil a'r defnydd o ganfyddiadau ymchwil.
Mae gan y rhan fwyaf o gyllidwyr ymchwil yn y DU eu polisïau mynediad agored eu hunain y bydd angen i chi gydymffurfio â nhw wrth gyhoeddi erthyglau sy'n deillio o'r cyllid hwnnw.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod canfyddiadau’r ymchwil a ariannwn ar gael i gynifer o bobl â phosibl. Os ydych yn ymchwilydd a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae angen i erthyglau a adolygir gan gymheiriaid a gyflwynir ar ôl 1 Medi 2022 fod yn rhai mynediad agored. Cyfeiriwch at ein Polisi Mynediad Agored i ddarganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl a sut y gallwch ddefnyddio llwyfan EuropePMC i rannu'r allbynnau o'ch dyfarniad gyda'r gymuned ymchwil ehangach
Cyfnodolion sy'n cyhoeddi erthyglau mynediad agored
Mae cyhoeddwyr sy'n cynnig opsiwn mynediad agored yn cynnwys yr holl gyhoeddwyr mynediad agored (fel BioMed Central a'r Public Library of Science) yn ogystal â nifer cynyddol o gyhoeddwyr traddodiadol y gallwch dalu ffi iddynt (Tâl Prosesu Erthygl neu APC) i wneud yr erthygl ar gael am ddim ar-lein. Gallwch ddefnyddio gwasanaeth SHERPA RoMEO a gynhelir gan Brifysgol Nottingham, i wirio polisïau mynediad agored gwahanol deitlau cyfnodolion.
Talu Taliadau Prosesu Erthyglau mynediad agored (APCs)
Mae APCs mynediad agored yn tueddu i amrywio o £600 i £3,000, gyda'r cyfartaledd tua £2,000.
Gall y rhan fwyaf o ymchwilwyr a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ddefnyddio eu grantiau prosiect neu ddyfarniadau personol i dalu am APCs - gweler yr adran Cyngor ar gostau yn ein Polisi Mynediad Agored
Mae gan gyrff cyllido eraill y DU eu rheolau eu hunain ynghylch sut y gellir talu costau cyhoeddi mynediad agored.
Os ydych yn cyhoeddi erthygl o ymchwil heb ei ariannu ac yn meddwl tybed sut i dalu am yr APC, yna dylech gysylltu â'ch sefydliad cynnal. Mae gan rai prifysgolion gytundebau gyda chyhoeddwyr ar gyfer cyhoeddi mynediad agored - cysylltwch â llyfrgell eich Prifysgol. Dylai ymchwilwyr y GIG gysylltu â'u swyddfa ymchwil a datblygu (Y&D) GIG neu wasanaeth llyfrgell y GIG.
Gochelwch rhag cyfnodolion rheibus
Sylwch fod yna “gyfnodolion rheibus”, fel y'u gelwir, sy'n anfon e-byst sbam at academyddion i'w cael i gyhoeddi erthygl, ac yna'n codi ffioedd cyhoeddi/mynediad agored mawr, er nad yw'r erthyglau hyn wedi'u hadolygu'n gywir gan gymheiriaid na'u mynegeio mewn cronfa ddata lyfryddol sydd ag enw da. Gallwch ddefnyddio gwasanaeth SHERPA RoMEO i wirio am gyfnodolion cyfreithlon sydd â pholisïau mynediad agored.