Costau cyflymach ar gyfer ymchwil fasnachol yn y DU
Costio ymchwil fasnachol yn y DU
Mae'r ffordd y caiff ymchwil fasnachol ei chostio a'i negodi yng Nghymru ac ar draws y DU wedi newid er mwyn gwella cysondeb a lleihau oedi diangen wrth sefydlu astudiaethau trwy broses a elwir yn Adolygiad Gwerth Contract Cenedlaethol (NCVR).
Beth yw adolygiad gwerth contract cenedlaethol?
Mae NCVR yn ddull safonol, cenedlaethol o gostio ar gyfer ymchwil contract masnachol ac mae'n canolbwyntio ar gytuno ar yr adnoddau a'r pris sydd eu hangen i sefydlu astudiaethau ymchwil fasnachol o fewn sefydliadau'r GIG. Mae'r gwaith hwn yn rhan o nod cyffredin ehangach i sicrhau bod ymchwil glinigol yn parhau i ffynnu yn y DU, er budd cleifion a'r cyhoedd.
Mae'r broses NCVR yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gyda Thempled Costio masnachol y DU (Offeryn Costio rhyngweithiol y NIHR – iCT) i greu adolygiad gwerth un contract gydag Adolygydd Adnoddau Cenedlaethol penodedig ar gyfer pob astudiaeth contract masnachol yn y DU. Mae cydnabyddiaeth ddwyochrog o adolygiadau gwerth contract a gynhelir gan sefydliadau'r GIG ledled y DU.
O 14 Hydref 2024, bydd NCVR yn cynnwys astudiaethau Cyfnod Cynnar (cyfnodau I a IIa) ac astudiaethau Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch.
Effaith gynnar NCVR
Gwelliannau hyd yn hyn
Ers 2023:
- Mae NCVR wedi gweld gostyngiad o 36% yn yr amser sefydlu yn y dadansoddiad 12 mis cyntaf
- Dros 1450 o adolygiadau wedi’u cwblhau hyd yn hyn a’r amser canolrifol ar gyfer adolygiad safle arweiniol yw 34 (1 Hydref). Yr amser cyfartalog ar gyfer cwblhau cyfnod Adolygu Adnoddau Astudio ar hyn o bryd yw 35 diwrnod.
- Y nifer cyfartalog o safleoedd ymchwil y GIG fesul astudiaeth yw 10, ac mae 80% o’r holl astudiaethau yn cwblhau’r adolygiad adnoddau heb fod angen uwchgyfeirio safle penodol.
- Yn ogystal ag amser sefydlu cyflymach, mae NCVR wedi rhyddhau adnoddau mewn safleoedd i gynnal gweithgaredd sefydlu arall.
- Mae strwythur prisio masnachol y DU, elfen allweddol o NCVR, yn cael ei ymgorffori yn Medidata GrantsManager – offeryn cyllidebu masnachol byd-eang – gan helpu i adeiladu sicrwydd a chywirdeb ar gyfer cwsmeriaid gwyddorau bywyd byd-eang ar ddechrau’r broses o greu cyllidebau gwledydd y DU.
Adolygiad Gwerth Contract Cenedlaethol
Ar gyfer pob astudiaeth a gyflwynir yn IRAS neu’r offeryn costio rhyngweithiol (iCT):
- nid oes negodi prisiau safle’r GIG lleol;
- bydd holl gytundebau templed masnachol y DU yn cynnwys yr atodiad ariannol newydd;
- mae’r atodiad ariannol yn orfodol i’w ddefnyddio, heb ei addasu;
- bydd cyflwyniadau IRAS ac iCT yn cael eu gwneud ar yr un pryd;
- bydd adolygiadau adnoddau astudio yn cael eu rheoli o dan egwyddorion cam dau;
- caiff yr adolygiad cenedlaethol iCT ei rannu gydag ymgeisydd yn hytrach na’r safle. Mae’r ymgeisydd yn copïo atodlen cyllid iCT penodol y sefydliad i’r atodiad contract templed newydd, i’w rannu â’r safle. Bydd safleoedd yn dal i dderbyn manylion cyllideb lefel sefydliad llawn gan yr iCT, i gefnogi anfonebu a thalu mewnol, gan y bydd noddwyr yn darparu hyn.
Fel noddwr, beth sydd angen i mi ei wneud?
- cyflwynwch eich iCT ar gyfer adolygu adnoddau astudio ar gyfer un pryd â’ch cyflwyniad IRAS;
- cynhwyswch y cytundeb templed DU newydd priodol, gyda’r atodiad ariannol newydd, yn eich cyflwyniad IRAS;
- pan fydd ar gael, copïwch yr atodiad cyllid iCT i atodlen ariannol y cytundeb i’w rannu â safleoedd;
- cwblhewch broses iCT y safle, cyn rhannu'r iCT lefel safle dan glo gyda'r safle y tu mewn i CPMS. Dylid gwneud hyn ar yr un pryd â rhannu'r templed contract gorffenedig gyda'r safle, i gefnogi anfonebu safle a thalu mewnol.
Lle gallaf gael mwy o wybodaeth a chefnogaeth gyda’r broses NCVR?
Yng Nghymru, mae NCVR yn cael ei ddarparu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau’r GIG ledled Cymru.
Am fwy o wybodaeth a chefnogaeth, e-bostiwch gwasanaeth cefnogi a darparu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae nifer o adnoddau NCVR defnyddiol yn y DU ar gael ar wefan NIHR a gweminar a gynhelir gan y Fforwm Ymchwil a Datblygu, GIG Lloegr ac NIHR.
Er y bydd prosesau'n cael eu halinio ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae rhai gwahaniaethau bach o fewn pob gwlad o ran sut mae'r rhaglen yn cael ei gweithredu. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan pob gwlad:
Ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon
Beth yw’r broses uwchgyfeirio ar gyfer NCVR?
Mae llwybr uwchgyfeirio NCVR er mwyn deall pryd a sut i uwchgyfeirio materion neu wallau gydag adolygiad NCVR, neu raglen NCVR ehangach. Mae uwchgyfeirio’n cael eu rheoli gan ddull 'un pwynt cyswllt' sy'n benodol i'r genedl er mwyn atal adolygwyr rhag cael cyswllt gan sawl safle. Ar gyfer Cymru, mae hyn yn cael ei reoli gan Dîm Cyllid Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru y gellir cysylltu â nhw drwy e-bost.
Mae ffeithlun wedi cael ei gyd-greu gan bedair gwlad y DU sy’n darparu gwybodaeth am lwybr uwchgyfeirio NCVR y DU.