Cynnal eich ymchwil yn unol â’r safon ofynnol: hyfforddiant arferion clinigol da

Cyfres o safonau ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol y mae'n rhaid eu dilyn wrth gynllunio, cynnal, cofnodi ac adrodd am dreialon clinigol sy’n cynnwys pobl yw arferion clinigol da. Rydym yn argymell bod pob ymchwilydd yn ymgymryd â’n hyfforddiant arferion clinigol da (GCP), sydd ar gael ar-lein.

Ceir gofyniad cyfreithiol bod treialon clinigol ar gynhyrchion meddyginiaethol yn cyflawni trwydded farchnata i’w chynnal i safonau arferion clinigol da. Mae angen cydymffurfio â phrif egwyddorion arferion clinigol da gyda threialon clinigol ar gynhyrchion meddyginiaethol hefyd, pan na cheisir cael trwydded.

Yn aml, mae’r safonau hyn yn cael eu mabwysiadu mewn ffordd gymesur ar gyfer mathau eraill o astudio er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn modd sy’n diogelu hawliau, diogelwch a lles cyfranogwyr ymchwil a bod data yr ymchwil yn ddibynadwy.

Mae’n bwysig bod gan y noddwr, yr ymchwilydd a’r holl unigolion sy'n gweithio ar yr astudiaeth gymwysterau a hyfforddiant priodol fel y gallant gyflenwi’r astudiaeth i’r safonau gofynnol.

I drafod a oes angen hyfforddiant arferion clinigol da neu anghenion hyfforddi eraill arnoch, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

GCP dogfennau cefnogi

Yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi i ddiwallu’ch gofynion astudio. Rydyn ni hefyd yn darparu amrywiaeth o adnoddau a thempledi defnyddiol i’ch cefnogi i ddilyn yr arfer ymchwil gorau.

Research factsheets and reference guides

GCP Reference Guide v2.4

Research awareness factsheet

Useful research documents

Decision tree for adverse event reporting

Useful research templates

Appointment checklist

Consent checklist audit tool

Curriculm Vitae

Delegation checklist

Delegation of duties log

Document tracking log

File note

Investigator's site file contents (CTIMP)

Investigator's site file contents (non-CTIMP)

Principal Investigator oversight record

Source data/CRF audit tool

Supplies issue log

Telephone summary

Training log

Treatment allocation log

Version control log