Cynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil

Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru genhadaeth i gefnogi a datblygu ymchwil ragorol sy’n cael effaith bositif ar iechyd, llesiant a ffyniant pobl yng Nghymru. Rydyn ni o’r farn bod cynnwys y cyhoedd yn gwneud ymchwil yn fwy perthnasol, yn fwy dibynadwy ac yn fwy tebygol o newid arfer.

Gall aelodau’r cyhoedd eich helpu i ddewis pynciau ymchwil perthnasol a gwneud yn siŵr eich bod yn gofyn y cwestiynau iawn; eich helpu i benderfynu sut i gynnal astudiaeth, gan ddefnyddio’u profiad fel rhywun sy’n byw â salwch neu gyflwr; a gallan nhw hefyd eich helpu unwaith y mae’r astudiaeth wedi’i chwblhau trwy werthuso neu rannu canlyniadau’ch ymchwil.

Yn 2019-20, cytunodd ymchwilwyr, rheolwyr ymchwil ac aelodau’r cyhoedd ar y cyd ar y weledigaeth a’r camau ymarferol y dylid eu cymryd i lunio ein dull ar y cyd o fynd ati i gynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd, a gellir darllen am hyn yn adroddiad ‘darganfod eich rôl’.

Sut i fanteisio ar gefnogaeth

Yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae ein tîm ymroddgar, Peter, Rebecca ac Emma, yma i’ch cynorthwyo i gynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil. Maen nhw’n darparu cefnogaeth ac adnoddau gwerthfawr i hwyluso cynnwys y cyhoedd yn eich gwaith. Hyd yn oed cyn cael cyllid ar gyfer eich ymchwil, gallwch chi fanteisio ar y Gronfa Galluogi Cynnwys, sy’n cynorthwyo â chynnwys y cyhoedd yn ystod cyfnod datblygu’ch prosiect ymchwil.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr neu’r cyhoedd yn eich ymchwil, llenwch y ffurflen cais am gefnogaeth cynnwys y cyhoedd neu cysylltwch â’n tîm. Rydyn ni yma i helpu.

Gwthio’r cwch i’r dŵr

I roi cychwyn ar gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, dilynwch y camau hyn:

I gael hyfforddiant mewn cynnwys y cyhoedd, gallwch chi:

Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn hyfforddiant wedi’i deilwra ar gynnwys y cyhoedd, gall tîm Cyfathrebu, Cynnwys ac Ymgysylltu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru helpu. Byddwn ni’n defnyddio’r cylch ymchwil i nodi meysydd a dulliau addas ar gyfer cynnwys y cyhoedd, wedi’i deilwra ar gyfer ffocws penodol eich sefydliad chi. I wneud cais am yr hyfforddiant hwn, anfonwch e-bost atom ni.

Penodi aelodau’r cyhoedd

Unwaith rydych chi wedi penodi aelodau’r cyhoedd i’w cynnwys yn eich ymchwil, bydd yr offerynnau a’r templedi a ganlyn yn ddefnyddiol:

I gael rhagor o gefnogaeth, gwybodaeth neu i siarad â Peter, Rebecca neu Emma am gynnwys y cyhoedd, anfonwch e-bost atom ni.