Working together

Mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithio helaeth yn digwydd ar draws holl weithgarwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n gwneud llawer o’n cyflawniadau’n bosibl. Boed ar lefel ryngwladol, y DU neu Gymru gyfan – a boed yn rhwydweithio, yn cydlynu, yn cydweithredu neu’n cydweithio – mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol os ydyn ni am fod ar ein gorau.

Rydyn ni’n gweithio’n strategol ac yn ymarferol ar draws nifer o sectorau ym meysydd iechyd, gofal cymdeithaso, y trydydd sector a’r diwydiant. Rydyn ni’n cydweithio ag amrywiaeth eang iawn o bartneriaid, gan gynnwys adrannau iechyd a gofal cymdeithasol eraill y DU, y cyhoedd, ymchwilwyr, arianwyr ymchwil ac eraill.

Mae buddion gweithio mewn partneriaeth yn anferthol, gan ddarparu mwy a arbenigedd, mewnwelediadau hanfodol ac weithiau ysbrydoliaeth wrth i ni gydweithio i wella’r amgylchedd ymchwilio’n barhaus, rhannu a dysgu o arfer gorau ac annog arloesedd.

Gweithio strategol

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cydweithio’n agos â’i bartneriaid yn y DU i ychwanegu gwerth a sicrhau bod cyllid ymchwil yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol er mwyn cael yr effaith orau bosibl.

Fel aelod o’r Swyddfa Cydlynu Strategol Ymchwil i Iechyd (OSCHR), mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n gweithio gydag adrannau iechyd a gofal cymdeithasol eraill llywodraeth y DU, partneriaid perthnasol yn Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) (gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Feddygol) a phartneriaid allweddol yn y trydydd sector a rhai masnachol, i gydlynu gweithgarwch ar draws y sbectrwm ymchwil iechyd a gofal yn y DU. Mae OSCHR yn sicrhau bod arianwyr y DU yn cyfeirio adnoddau at feysydd lle mae angen amdanyn nhw mewn ffordd gydlynol a chyson, yn amrywio o fuddsoddi mewn gwyddoniaeth ategol, ymchwil arloesi ac atal cyfnod cynnar, trwodd i drefnu a chyflenwi gwasanaethau.

Mae’r gynghrair ehangach o arianwyr ymchwil a sefydliadau eraill o fewn Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC) yn darparu fforwm ar gyfer trafodaeth eang ei hystod, a gweithredu ar faterion strategol ac ymarferol sy’n effeithio ar bob un ohonon ni.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n dal i fod yn aelod o’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Canser (NCRI) sy’n dod ag adrannau iechyd a gofal cymdeithasol llywodraeth y DU, cynghorau ymchwil, Ymchwil Canser y DU ac arianwyr elusennol eraill at ei gilydd mewn ymdrech ymchwil genedlaethol yn y frwydr yn erbyn canser.

Rydyn ni hefyd yn parhau i chwarae rhan weithredol, fel cyd-gynullydd, yn y cydweithrediad arianwyr rhyngwladol, sef Fforwm Sicrhau Gwerth mewn Ymchwil, sy’n gweithio i hyrwyddo arferion ariannu ymchwil sy’n gysylltiedig ag iechyd er mwyn sicrhau bod ymchwil o’r budd mwyaf posibl.

Rydyn ni hefyd yn cydweithio’n agos â chydweithwyr yng ngweddill y DU, gan gynnwys ein cymheiriaid yng ngwledydd eraill y DU: y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn Lloegr, Swyddfa'r Prif Wyddonwyr (CSO) yn yr Alban a’r Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) yng Ngogledd Iwerddon.

Mae ein gweithio cryf mewn partneriaeth â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) wedi parhau i dyfu, gan sicrhau bod yna fframwaith cyffredin i ymchwilwyr ledled y DU. 

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymrwymo i gynnwys y cyhoedd, gan roi’r cyhoedd yng nghanol popeth a wnawn.

Ariannu partneriaethau

Mae gweithio gydag arianwyr eraill yn ein galluogi i gynnig cyfleoedd ariannu ychwanegol i ymchwilwyr yng Nghymru. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy:

  • ymgysylltu â mentrau ar draws arianwyr (fel Partneriaeth Ymchwil Atal y DU, Ymchwil Data Iechyd y DU);
  • cymryd rhan mewn cynlluniau ariannu ar raddfa fawr y mae eraill yn eu rhedeg (fel amrywiaeth o raglenni y cytunir arnyn nhw â’r NIHR); a
  • gweithio gydag arianwyr penodol, fel Ymchwil Canser y DU, Fight for Sight a’r Scar Free Foundation, i gynnig cyfleoedd ariannu pwrpasol.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal yn croesawu arianwyr sydd eisiau bod yn bartner ariannu gyda ni i ddod ar ein gofyn a thrafod hyn.

Mae cyfleoedd cyfredol i’w gweld ar ein tudalen cynlluniau ariannu.

Y Diwydiant

Mae gweithio gyda’r sector gwyddorau bywyd yn hollbwysig i gael gwell iechyd i bawb, gwella profiad y claf a chyflenwi gwasanaeth diogel, o ansawdd uchel sy’n gwella deilliannau iechyd. Yng Nghymru, mae’r nodau hyn yn ganolog i bopeth a wnawn.

Mae ein perthynas â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain i gyflawni’r uchelgeisiau ymchwil glinigol yn y sector gwyddorau bywyd hefyd yn allweddol i hybu Cymru fel rhan o gynnig cwmnïau cyhoeddus cyfyngedig y DU i'r diwydiant fferyllol.

Mae gan Gymru ddiwylliant ymchwil bywiog sy’n cynnwys y GIG, y diwydiant ac academia. Mae mentrau gwahanol wedi helpu i symleiddio’r prosesau ar gyfer ymgymryd ag astudiaethau, gan wneud Cymru’n gynnig deniadol i’r diwydiant. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cefnogi ac yn cyflenwi portffolio amrywiol o ymchwil y diwydiant ledled Cymru. Mae astudiaethau’n amrywio o dreialon canser cymhleth o endidau cemegol am y tro cyntaf mewn pobl, i astudiaethau arsylwadol byd go iawn sy’n llai ymosodol.

Mae gennym ni ragor o wybodaeth am sut y gallwn ni eich helpu i gynllunio, sefydlu a chyflenwi ymchwil yn llwyddiannus yng Nghymru trwy ein set o wasanaethau sy’n benodol ar gyfer ymchwil fasnachol yng Nghymru yma.

I drafod eich astudiaeth ymchwil fasnachol a sut y gallwn ni helpu, cysylltwch â’n tîm sydd yno’n benodol ar gyfer y diwydiant trwy anfon e-bost i industry-research@wales.nhs.uk