Adrodd ar gynnydd yr astudiaeth

Bydd angen ichi adrodd ar faterion diogelwch, cynnydd yr astudiaeth, y cyfranogwyr a recriwtiwyd ac effeithiau yr astudiaeth i wahanol sefydliadau a chyrff adolygu drwy gydol yr astudiaeth.

Bydd adrodd ar ddiogelwch a chynnydd yr astudiaeth yn amrywio gan ddibynnu ar fath yr ymchwil, ond mae’n ofynnol sicrhau diogelwch a lles cyfranogwyr yr astudiaeth a bod yr astudiaeth yn cael ei chwblhau’n brydlon.

Bydd gofyn ichi adrodd am gynnydd yr astudiaeth i’r corff sy’n ariannu’r ymchwil, y pwyllgor moeseg, y GIG neu’r sefydliad gofal cymdeithasol lle mae’r ymchwil yn cael ei chynnal ac unrhyw awdurdod rheoleiddio perthnasol. Bydd yr amserlen adrodd yn cael ei hamlinellu ar ddechrau’r astudiaeth.

Mae’n ofyniad contractiol i bawb sy’n derbyn dyfarniad gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyflwyno gwybodaeth ar gynnyrch ac effeithiau eu hymchwil i Researchfish yn flynyddol (trwy gydol cyfnod y prosiect ac am bum mlynedd wedi ei gwblhau). Mae canllawiau a chwestiynau cyffredin Researchfish ar gael a cheir rhagor o ganllawiau a fideos ar wefan Researchfish.  

Darperir adroddiadau diogelwch yn ôl y gofyn ac yn unol â phrotocol yr astudiaeth.

Er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni holl ofynion rheoli eich astudiaeth yn ddiogel, bydd angen ichi ymgymryd â hyfforddiant arferion clinigol da.

I gael cyngor, dylech gysylltu â gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.