Buddsoddi mewn cyflawni ymchwil fasnachol

Mae'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio (VPAG) yn gytundeb rhwng pedair gwlad y DU a'r diwydiant fferyllol. 

Bydd yn darparu buddsoddiad sylweddol (£400 miliwn) i sector iechyd a gwyddorau bywyd y DU yn ystod 2024-2029, gan gynnwys £300 miliwn tuag at ehangu capasiti a gallu'r DU i gefnogi cyflawni treialon clinigol masnachol.   

Rhaglen Buddsoddi Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru

Bydd y buddsoddiad yn cryfhau gallu'r GIG i gyflawni ymchwil glinigol fasnachol trwy:

  1. Ehangu a gwella’r seilwaith ymchwil glinigol fasnachol bwrpasol bresennol – gan sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol yn y DU, gan gynnwys Canolfan Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru.
  2. Darparu cyllid hyblyg i ysgogi adnoddau treialon clinigol trwy gynyddu capasiti’r gweithlu a’r seilwaith sy'n berthnasol i gyflawni ymchwil glinigol fasnachol

Bydd Cymru yn derbyn £22.1 miliwn rhwng 2024 a 2029. 

Ym mis Ebrill 2025, fe wnaethom sefydlu Canolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru, gan gydnabod lle mae gennym yr hanes gorau o gyflwyno treialon masnachol i fod yn rhan o Rwydwaith y DU, a lle mae potensial i ehangu'r cynnig hwnnw'n gyflym drwy fwy o fuddsoddiad. Bydd ein cynnig yn ehangu wrth i dimau eraill ddatblygu'r arbenigedd hwnnw, ond i ddechrau mae'n cynnwys:  

  • Uned Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc (yng Nghaerdydd)
  • Canolfan Ganser Felindre (yng Nghaerdydd)
  • Ymchwil Ffeibrosis Systig ac Anadlol (yng Nghaerdydd)
  • Neffroleg a Thrawsblaniad (yng Nghaerdydd)
  • Cyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru (yn Wrecsam)
  • Rhwydwaith Darparu Gofal Sylfaenol ac Ymchwil Gymunedol newydd (Cymru gyfan)

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn timau/unedau eraill ledled Cymru sydd â photensial uchel i ehangu eu capasiti a galluogrwydd: 

  • Cyfleuster Ymchwil Clinigol Caerdydd
  • Cyfleuster Ymchwil Clinigol Casnewydd
  • Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan
  • Gwasanaethau fferylliaeth a delweddu (Cymru gyfan)
  • Clust, Trwyn a Gwddf (Caerdydd)
  • Clefydau Prin (Caerdydd)
  • Anadlol (Hywel Dda)
  • Canser (yn Abertawe)
  • Therapïau uwch (gwasanaeth Cymru Gyfan wedi'i leoli yng Nghaerdydd)
  • Niwroleg (Caerdydd)
  • Gwella clwyfau, rhewmatoleg. haematoleg, cardioleg, radioleg ymyraethol, a seiciatreg henaint (Casnewydd)

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn timau/unedau eraill ledled Cymru sydd â photensial uchel i ehangu eu capasiti a galluogrwydd: 

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn timau/unedau eraill ledled Cymru sydd â photensial uchel i ehangu eu capasiti a galluogrwydd: 

Trosolwg o raglen fuddsoddi Cymru

Fframwaith Cyflenwi Ymchwil Masnachol v2.0 (pdf)


Gwnewch gais am gyllid fel rhan o'r rhaglen fuddsoddi: