Cael gafael ar gymeradwyaeth

Bydd angen ichi wneud cais am gymeradwyaeth oddi wrth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y bydd angen iddi fod ar waith cyn y gallwch ddechrau eich astudiaeth ymchwil. 

Proses gyfunol o wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer yr holl ymchwil GIG a gofal cymdeithasol sy’n seiliedig ar brosiectau a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr yw cymeradwyaeth oddi wrth Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Bydd angen ichi sicrhau eich bod yn cynnal ymchwil i’r safonau gofynnol a’ch bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol. Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar ein tudalen sefydlu astudiaeth ymchwil. Hefyd, mae gwybodaeth am gynllunio eich astudiaeth ar gael yn yr adran cynllunio ymchwil ar wefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd.

Cyflwyno eich cais

Gwneir pob cais gan ddefnyddio system ymgeisio integredig ar gyfer ymchwil (IRAS) ar-lein y DU.

Gofynnir cwestiynau ichi a fydd yn helpu i nodi a oes angen cymeradwyaeth foesegol neu Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd arnoch ar gyfer eich astudiaeth, a byddwch yn cael eich cyfeirio at y ffurflenni priodol yn y system IRAS.

I gael gwybodaeth am sut i baratoi a chyflwyno cais am gymeradwyaeth Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cyfeiriwch at wefan IRAS.

Ceir rhagor o wybodaeth am gymeradwyaeth Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar wefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd. 

Astudiaethau sy’n cynnwys Gogledd Iwerddon a’r Alban

Ar gyfer astudiaethau newydd sy’n cael eu harwain o Ogledd Iwerddon neu’r Alban ond sydd â safleoedd GIG yng Nghymru a/neu Loegr, bydd y genedl arweiniol yn rhannu gwybodaeth â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn galluogi’r mater o gymeradwyaeth Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer y safleoedd yng Nghymru a Lloegr.

Ar gyfer astudiaethau newydd sy’n cael eu harwain o Gymru sydd â safleoedd GIG yng Ngogledd Iwerddon a/neu’r Alban, bydd y gwasanaeth cymeradwyo yn rhannu gwybodaeth â’r gwledydd sy’n cymryd rhan. Bydd y swyddogaeth gydgysylltu ymchwil a datblygu berthnasol yn darparu cyngor ar sefydlu safleoedd yn eu cenedl.